Jabberwocky Variations
Home : Translations : Siaberwoci


Siaberwoci

Selyf Roberts

Mae'n brydgell ac mae'r brochgim stwd
Yn gimblo a gyrian yn y mhello:
Pob cólomrws yn féddabwd,
A'r hoch oma'n chwibruo.

'Gwylia'r hen Siaberwoc, fy mab!
Y brathiad llym a'r crafanc tynn!
A rhed pan weli'r Gwbigab
A'r ofnynllyd Barllyn!'

Cym'rodd ei gleddyf yn ei law
I geisio ei fanawaidd brae--
A gorffwys ger y goeden Taw,
I feddwl--fel pe tae.

A thra pendronai ymhlith y coed
Y Siaberwoc a'i lygaid fflam
A ddaeth, mor wallgof ag erioed
Gan ffrwtian gam a cham!

Un, dau! Un, dau! drwy'r awyr oer
Aeth min y cledd ysgiw, ysgôl!
Fe'i lladdodd, a chan gludo'i ben
Hwblamodd yn ei ôl.

'A lleddaist ti y Siaberwoc?
Tyrd yma, hapllon fachgen!
O jiwblus ddydd! Hwrê! Hwroc!'
Gan wenu arno'n llawen.

Mae'n brydgell ac mae'r brochgim stwd
Yn gimblo a gyrian yn y mhello:
Pob cólomrws yn féddabwd,
A'r hoch oma'n chwibruo.


Written in 1984.


< Prev  Next >
Home : Translations : Siaberwoci

Jabberwocky Variations   http://pobox.com/~keithlim/jabberwocky/   keithlim@pobox.com